Gwesty'r Celtic Manor
Mae Cyngor Casnewydd wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i godi Canolfan Gynadledda ar safle Gwesty’r Celtic Manor.
Cafodd y cynlluniau eu derbyn yn unfrydol mewn cyfarfod y bore ma.
Bydd lle yn y ganolfan newydd ar gyfer 4,000 o gynadleddwyr, ac mae disgwyl i’r datblygiad arwain at greu 150 o swyddi newydd.
Y gobaith yw agor y ganolfan newydd yn 2018.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gwesty Syr Terry Matthews wedi cynnal digwyddiadau byd-eang gan gynnwys Cwpan Ryder ym myd golff, ac Uwchgynhadledd Nato.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys dwy neuadd – un i gynadleddwyr ac un arall ar gyfer arddangosfeydd, a llefydd parcio ar gyfer hyd at 990 o geir.