Mae’r arolwg cenedlaethol cyntaf ar addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi canfod bod dysgu ieithoedd tramor yn cael ei “wthio i’r cyrion” fwyfwy o fewn y cwricwlwm, gyda nifer y disgyblion sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn syrthio.

Datgelodd adroddiad ‘Tueddiadau Iaith Cymru’, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Addysg y CfBT a’r British Council, mai dim ond 22% o ddisgyblion yng Nghymru sy’n astudio iaith arall ar wahân i Saesneg neu Gymraeg.

Mae hyn er gwaethaf y fantais sydd gan Gymry  Cymraeg wrth ddysgu ieithoedd eraill, yn ôl arbenigwyr – sy’n dweud bod medru dwy iaith yn ei gwneud hi’n haws dysgu trydydd un.

Dywed yr adroddiad fod athrawon hefyd yn teimlo bod llai o amser ar gyfer ieithoedd yng nghwricwlwm Cyfnod Allweddol 3, er gwaethaf canllawiau Estyn.

‘Pryder’

Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau gwerth £480,000 i geisio annog mwy o ddisgyblion yn ysgolion Cymru i ddilyn cyrsiau ieithoedd tramor.

Ond mae’r adroddiad newydd yn rhoi darlun go iawn o’r sefyllfa ynghylch ieithoedd tramor, yn ôl Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu CfBT Tony McAleavy:

“Mae’r dyfodol o ran ieithoedd yn ansicr ac nid yw disgyblion yn cael y cyfleoedd na’r anogaeth sydd eu hangen i ddal ati wrth ddysgu iaith.”

“Am y tro cyntaf, mae’r arolwg hwn yn rhoi’r cyfle i ni gael darlun o ddysgu ieithoedd yng Nghymru, sy’n pwysleisio’r llwyddiannau a’r heriau y mae hyn yn ei olygu.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y British Council Cymru Jenny Scott bod y nifer fach o ddisgyblion ysgol yng Nghymru sy’n astudio ieithoedd tramor yn “destun pryder”.