Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi carfan hyfforddi o 47 o chwaraewyr i baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Mae’r garfan yn cynnwys 17 o chwaraewyr sydd â phrofiad o chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd, a naw o chwaraewyr sydd heb eu capio.

Dros y misoedd nesaf, bydd y chwaraewyr yn wynebu hyfforddiant dwys mewn gwersylloedd hyfforddi yn y Swistir, Qatar a Gwlad Pwyl cyn i’r garfan derfynol o 31 chwaraewr gael ei chyhoeddi ar 31 Awst.

Mae pob un o’r 12 chwaraewr sydd ar gytundebau deuol wedi cael eu henwi yn y garfan estynedig, sy’n cynnwys 25 o flaenwyr a 22 o gefnwyr.

Bydd y prop Gethin Jenkins yn gobeithio cael ei ddewis i chwarae yn ei bedwerydd Cwpan y Byd tra bod pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap wedi cael eu henwi ymysg y cefnwyr. Maen nhw’n cynnwys Gareth Anscombe, Jack Dixon, Tyler Morgan ac Eli Walker.

Yn ogystal, mae George North wedi cael ei gynnwys yn y garfan er nad ydi o wedi chwarae ers diwedd Mawrth yn dilyn cyfergyd.

‘Talent ifanc’

Meddai Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru: “Fel tîm hyfforddi, rydym yn hynod hapus gyda’r garfan o ran y profiad yn ogystal â’r dalent ifanc sydd wedi creu argraff wirioneddol arnom ni.”

“Mae’r rhan hawdd i’r chwaraewyr wedi cael ei wneud, o ran cael eu dewis, ond bydd y gwaith caled yn dechrau o’r diwrnod cyntaf gydag amserlen enfawr o baratoi o’u blaenau.”

Carfan Hyfforddi Cymru

Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Tomas Francis (Exeter), Paul James (Caerfaddon), Aaron Jarvis (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Scott Baldwin (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Richard Hibbard (Caerloyw), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Dominic Day (Caerfaddon), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Rory Thornton (Gweilch), Dan Baker (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (CAPT – Gleision).

Cefnwyr: Gareth Davies (Scarlets), Mike Phillips (Racing Metro), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), James Hook (Caerloyw), Matthew Morgan (Bryste), Rhys Patchell (Gleision), Rhys Priestland (Scarlets), Cory Allen (Gleision), Jack Dixon (Dreigiau), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Racing Metro), Scott Williams (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Leigh Halfpenny (Toulon), Tom James (Exeter), George North (Northampton), Eli Walker (Gweilch), Liam Williams (Scarlets).