Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddynes 44 oed yn ardal Cefn Glas o Ben-y-bont ar Ogwr fore ddoe.

Fe fu’n rhaid iddi gael triniaeth ysbyty i anafiadau i’w hwyneb ar ôl i ddyn ymosod arni wrth iddi gerdded ar hyd Merlin Crescent.

Mae 39 oed wedi cael ei arestio ynglŷn â’r digwyddiad ac mae’n dal yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Pen-y-bont.

Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Suzanne Hughes:

“Roedd hwn yn ymosodiad ffiaidd a chwbl ddigymell – ac yn brofiad trawmatig i’r ddioddefwraig sy’n cael triniaeth yn Ysbyty Treforys am anafiadau i’w hwyneb.

“Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn anarferol a hoffwn sicrhau pobl leol fod y sawl sy’n cael ei amau wedi cael ei arestio’n gyflym ac yn nalfa’r heddlu.”

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi digwyddiad rhif 1500189010.