Mae rhan o ffordd yr A485 rhwng Caerfyrddin a Llanbed yn dal i fod ar gau gerllaw troad Pencader ar ôl i lori fynd ar dân arni.

Nid oes adroddiadau hyd yma fod neb wedi cael eu hanafu.

Dywedodd un o’r gweithwyr mewn garej gerllaw ei bod yn ymddangos bod y tân o dan reolaeth bellach.

Ddechrau’r wythnos fe ddigwyddodd damwain angheuol rhwng pedwar car ar yr un ffordd ger Peniel yn nes at Gaerfyrddin pryd y cafodd Aaron Hunter, 18 oed o Lanybydder ei ladd.