Mae uwch swyddogion Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn ystyried newid statws iaith yr ysgol o ‘ddwyieithog’ i ‘Gymraeg’.
Fe gafodd llythyrau eu gyrru at rieni’r disgyblion presennol i’w hysbysu bod ymgynghoriad i drafod y mater yn cael ei gynnal ar 8 Mehefin.
Pe bai’r cynnig yn cael ei basio, dyma fyddai’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Sir Gaerfyrddin o fis Medi 2016 ymlaen.
Symudiad naturiol
Mae ymgynghoriad drafft ar y cynnig yn dweud bod yr ysgol wedi symud yn naturiol tuag at ddod yn ysgol cyfrwng Cymraeg “ers blynyddoedd bellach”.
O’r bron i 900 o ddisgyblion, nid oes unrhyw un yn astudio Mathemateg trwy gyfrwng y Saesneg ym mlynyddoedd saith i 10 a dim ond un grŵp o ddisgyblion sydd wedi dewis astudio Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg ym mlwyddyn saith.
‘Mae’r newid wedi digwydd yn organig dros gyfnod o flynyddoedd ac mae’n synhwyrol, felly, i symud ymlaen ymhellach gan sefydlu’r ysgol gategori Cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Sir Gâr,’ meddai geiriad yr ymgynghoriad.
Cefndir
Ysgol Categori 2A Dwyieithog yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ar hyn o bryd, sy’n golygu bod o leiaf 80% o’r pynciau (heblaw Saesneg a Chymraeg) yn cael eu dysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn unig i bob disgybl.
Cafodd ymgynghoriad arall ar newid statws iaith yr ysgol i Gymraeg ei gynnal yn 2000 ond bu gwrthwynebiad iddo.
Mae Pennaeth newydd yr ysgol Dr Llinos Jones yn gobeithio y bydd mwy o gefnogaeth y tro hwn.