Y myfyrwyr yn protestio heddiw
Mae myfyrwyr o Neuadd Pantycelyn wedi martsio i swyddfa is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wrth i drafodaethau barhau ynglŷn â dyfodol y neuadd breswyl.

Y prynhawn yma mae uwch swyddogion y brifysgol yn trafod argymhelliad i gau’r neuadd breswyl ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16 oherwydd bod angen gormod o waith atgyweirio arni.

Ond fe gynhaliodd y myfyrwyr brotest y prynhawn yma yn adeilad swyddfa’r is-ganghellor, ble mae’r cyfarfod yn digwydd, ar ôl clywed ddoe bod dyfodol y neuadd yn ansicr.

Llynedd fe gytunodd y brifysgol o gadw’r neuadd yn agored ar ôl protestiadau gan y myfyrwyr.

Dyma’r protestwyr yn cyrraedd yr adeilad ble mae’r cyfarfod yn cael ei chynnal:

Aros am benderfyniad

Mae disgwyl i’r pwyllgor sydd yn trafod y mater ddod i benderfyniad am ddyfodol y neuadd yn hwyrach y prynhawn yma.

Ac mae’r myfyrwyr wedi cyhuddo’r brifysgol o beidio â gwarantu y gallan nhw ddychwelyd i’r neuadd yn fuan os oes rhaid gwneud gwaith adeiladu arni.

Barn dau o’r myfyrwyr sydd wedi bod yn protestio heddiw, Eiri Angharad a Rhun Dafydd:

Cyn y cyfarfod dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth nad oedd y myfyrwyr yn hapus i gael gwybod ar gymaint o fur rybudd y gallai eu neuadd nhw gau’r flwyddyn nesaf.

“Mae’r myfyrwyr yn amlwg yn bryderus iawn ynglŷn â dyfodol ansicr y Neuadd,” meddai Miriam Williams.

“Mae hyn yn gyfnod arholiadau i’r myfyrwyr ac mae’r ffaith eu bod yn fodlon cefnu ar eu hastudiaethau er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd yn neges glir i awdurdodau’r Brifysgol fod angen iddynt wrando ar ein llais ni.

“Mae’r gymuned Gymraeg yn fregus ac mae angen ei diogelu, nid ei difrodi. Galwn ar y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth heddiw i dderbyn argymhelliad Gweithgor Dyfodol Pantycelyn, ac i wrthod cynlluniau uwch swyddogion i gau’r Neuadd am unrhyw gyfnod o amser.”