Mae’r heddlu wedi ymddiheuro i ferch yn ei harddegau ar ôl iddyn nhw ei harestio hi, ac wedi talu £20,000 o iawndal iddi.

Yn ôl y BBC mae Heddlu Hampshire wedi taro bargen gyda’r ferch, sy’n cael ei galw’n ‘Laura’ mewn adroddiad, wedi iddi gychwyn achos llys yn eu herbyn.

Dywedodd mam y ferch ei bod wedi “dychryn” gyda’r driniaeth y cafodd hi gan yr heddlu.

Deufis ar ôl cwyno am y trais yn 2012, fe gafodd y ferch ei harestio ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, a hynny wedi i brofion fforensig ar ei dillad fethu profi unrhyw beth.

Ond wedi i Wasanaeth Erlyn y Goron ofyn am ail brawf fe gafodd yr ymosodwr ei garcharu am bum mlynedd yn 2013.

Hunanladdiad

Mae’r fam wedi dweud wrth y BBC bod ei merch wedi ceisio lladd ei hun ddwywaith ar ôl cael ei harestio, a bod ei chyflwr meddyliol wedi gwaethygu.

Bu’r ferch yn aros am chwe mis yn dilyn ei harestio cyn clywed nad oedd yn cael ei hamau o unrhyw ddrygioni.

Mae’r Prif Uwcharolygydd David Powell wedi cyfaddef bod y modd y bu i’r heddlu ddelio gyda’r achos ar y cychwyn yn “wael”.