Mark Drakeford (Llun: Cynulliad)
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £7.6 miiwn o arian ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc.

Dyma ran o’r arian newydd a ddaeth yn sgil Cyllideb ddiwetha’ Llywodraeth Prydain ac, yn ôl y Gweinidog Iechyd, fe fydd y cyfan yn mynd at iechyd meddwl.

Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn benderfynol na fydd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru  cael eu hanghofio.

Ble bydd yr arian yn mynd

Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau y tu allan i oriau ac i’w gwneud yn haws i blant a  phobol ifanc gael gafael ar driniaeth seicolegol.

Y disgwyl yw y bydd rhagor o staff arbenigol yn cael eu penodi ac eraill yn y Gwasanaeth Iechd yn cael eu hyfforddi ymhellach.

Yn ôl y Llywodraeth, mae nifer y plant a phobol ifanc sy’n gofyn am help wedi dyblu yn ystod y pedair blynedd ddiwetha’ – roedd y ffigwr yn agos at 2,500 yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae rhestrau aros wedi bod yn codi hefyd ac roedd arbenigwyr yn y gwasanaeth wedi rhybuddio’i fod yn wynebu argyfwng.

‘Penderfynol’

“Rwy’n hollol benderfynol na fydd iechyd meddwl yn osgoi ein sylw ni,” meddai Mark Drakeford wrth Radio Wales.

Fe fyddai buddsoddi’n gynnar ym mywydau pobol ifanc yn help i osgoi llawer o broblemau’n nes ymlaen, meddai.

Eisoes, roedd Llywodraeth Cymru’n gwario mwy na £42 miliwn y flwyddyn ar wasanaethau o’r fath.