Llys y Goron Caerdydd
Mae meddyg a fu mewn gwrthdrawiad a gyrrwr beic modur wedi ei gael yn ddieuog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Cafodd yr anesthetydd Vincent Hamlyn ei arestio ar ôl i’w gar BMW Z4 fod mewn gwrthdrawiad gyda beic modur Kevin Morgan y llynedd.

Roedd Vincent Hamlyn, 33, yn gyrru i Drefynwy pan darodd ei gar yn erbyn beic modur Kawasaki Kevin Morgan, 60.

Dywedodd Dr Hamlyn wrth Lys y Goron Caerdydd nad oedd yn meddwl y byddai’r beic modur yn ceisio ei basio ar lon yn arwain at yr A449, yn agos at gyffordd 24 o’r M4.

Roedd wedi gwadu honiadau’r erlyniad ei fod wedi bod yn ceisio bod “ar y blaen” ac yn refio ei injan wrth ymuno a’r ffordd.

Clywodd y llys bod Dr Hamlyn a Kevin Morgan wedi bod yn gyrru ar gyflymder oedd yn uwch na’r cyfyngiad cyflymder o 40mya.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Dr Hamlyn ei fod wedi stopio ei gar yn syth pan sylweddolodd ei fod wedi bod mewn damwain ac fe geisiodd achub bywyd Kevin Morgan wrth ochr y ffordd.

Roedd post mortem yn dangos bod Kevin Morgan, o Gwmbrân, wedi dioddef anafiadau sylweddol i’w ben yn y ddamwain.

Mae ei deulu a ffrindiau yn bwriadu cynnal taith feiciau modur i godi arian er cof am y tad i dri o blant ar 14 Mehefin.

Nid oedd Dr Hamlyn wedi gwneud unrhyw sylw wrth newyddiadurwyr wrth iddo adael y llys.