Leanne Wood
Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod gan Blaid Cymru le i ddigalonni yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Aros yn ei hunfan fu hanes y Blaid, er gwaetha’r holl sylw gafodd ei harweinydd Leanne Wood.

Ni lwyddwyd i gipio seddi targed megis Môn a Llanelli, a daeth Ukip yn drydedd blaid fwya’ Cymru gan adael y cenedlaetholwyr yn bedwerydd.

“Y blaid a ddylai fod mwyaf digalon efallai yw Plaid Cymru,” meddai Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

“Mi roedd y canlyniad ychydig yn siomedig iddyn nhw.”

Talcen caled y Cynulliad

Ac mae’r academydd yn rhagweld talcen caled i Blaid Cymru adeg etholiad y Cynulliad ymhen blwyddyn, pan fydd Llafur Cymru yn llywodraethu yng Nghaerdydd a’r Ceidwadwyr yn teyrnasu yn Llundain.

“Y cyd-destun delfrydol i Blaid Cymru,” meddai Ropger Scully, “fyddai llywodraeth Lafur wan yn Llundain ac i [Blaid Cymru] apelio at gefnogwyr Llafur [yng Nghymru] gan ddweud ‘edrychwch sut mae Llafur yn eich gadael chi lawr’.

“Ond ni fydd hi’n bosib iddyn nhw wneud hynny ac fe fydd hynny’n arwain at broblemau i’r blaid yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.”

Rhagor o ddadansoddi yn rhifyn yr wythnos o Golwg