Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae dyn 22 oed, sydd wedi pleidio’n euog i gynnal gwarchae arfog ym mhentref Cynwyd ger Corwen, wedi cael ei ddedfrydu i 14 mis o garchar.
Roedd Ciaran Thomas Morris gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw i glywed ei dynged.
Fe blediodd yn euog i gyfres o gyhuddiadau, gan gynnwys bod â gwn yn ei feddiant, achosi ffrwgwd a bygwth lladd heddwas.
Roedd Ysgol Bro Ddyfrdwy ynghau yn dilyn y digwyddiad ac fe gafodd ardal Pig y Bont yn y pentref ei chau i’r cyhoedd.
Roedd wedi cau ei hun mewn tŷ yng Nghynwyd am 11 awr ar 27 Mawrth.