Ty Llanwenarth, ger Brynbuga
Mae datblygwr tai wedi cyfaddef gwneud gwaith adeiladu heb ganiatâd mewn plasty  hanesyddol Gradd II yn ne Cymru.

Dywedodd Kim Gregory Davies wrth Lys y Goron Casnewydd na ddylai fod wedi gwneud y gwaith ar Dŷ Llanwenarth yng nghwm Brynbuga, a gafodd ei adeiladu yn y 16eg Ganrif.

Cafodd yr adeilad ei statws gwarchodedig arbennig dros 60 mlynedd yn ôl, a’r gred oedd mai dyna ble gyfansoddodd y Gwyddel Cecil Alexander ei gân enwog All Things Bright and Beautiful.

Plediodd Kim Gregory Davies yn euog i bum cyhuddiad yn ymwneud â’r Ddeddf Cynllunio 1990, ac fe allai wynebu 12 mis yn y carchar neu ddirwy sylweddol am newid adeilad Gradd II heb ganiatâd.

‘Adnewyddu er mwyn gwerthu’

Fe glywodd y llys bod Kim Gregory Davies wedi gwneud dwsinau o newidiadau anghyfreithlon i’r adeilad gan gynnwys gosod jacuzzi, ailosod ffenestri a thynnu grisiau allan.

Roedd y gŵr 60 oed wedi pledio’n ddieuog i ddechrau, gan fynnu nad oedd wedi torri unrhyw reolau, ond bellach mae wedi disgyn ar ei fai ac wedi dweud y bydd yn “adfer y tŷ i’r ffordd y dylai fod”.

Fe brynodd Kim Gregory Davies y tŷ am £675,000, cyn ei adnewyddu am gost saith ffigwr ac yna’i roi ar y farchnad am £2.25miliwn pedair blynedd yn ddiweddarach.

Ymysg y newidiadau eraill a wnaeth i’r tŷ hanesyddol rhwng 2006 a 2012 oedd newid rhai o’r hen ddrysau i rai modern â golwg Tuduraidd, gosod goleuadau to a throi ystafell wely yn ystafell ymolchi.

Mae Kim Gregory Davies wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 15 Mai, gyda’r erlynydd Nicholas Haggan QC yn dweud y bydd costau’r achos yn debygol o fod yn “sylweddol”.