Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cyhuddo dyn o lofruddio Tracey Woodford, 47, ym Mhontypridd.

Bydd Christopher May, 50, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pontypridd yfory.

Mae archwiliad post mortem wedi’i gynnal ond dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau achos ei marwolaeth hyd yn hyn.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Hurley: “Hoffwn ofyn i unrhyw un sydd heb ddod atom i gysylltu â ni.

“Dw i’n awyddus i ddarganfod beth oedd symudiadau Tracey yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

“Rydym wedi derbyn cryn gefnogaeth gan y cyhoedd sydd, heb amheuaeth, wedi dioddef trawma oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd.

“Hoffwn ddiolch iddyn nhw am y gefnogaeth hon a’u sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth fedrwn ni i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd i Tracey.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.