Mae un o brif gwmnïau cyfieithu’r gorllewin yn cynnal lansiad i ddathlu agor swyddfa newydd a chreu swyddi newydd yn Aberystwyth heddiw.

Dros y tair blynedd ddiwetha’ mae cwmni Trywydd wedi gweld “cynnydd yn y galw” am ei wasanaethau yn ôl y rheolwyr, ac mae hynny wedi arwain at greu pedair swydd newydd.

Fe fydd yr Aelod Cynulliad lleol Elin Jones yn bresennol yn y lansiad sy’n cychwyn am 11.

Mae wyth o bobol yn gweithio yn swyddfeydd y cwmni yng Nghaerfyrddin a Llandeilo.

Cyflogaeth leol

Ffrwyth prosiect Ewropeaidd o’r enw Dewis, a sefydlwyd yn 2002, yw Trywydd.

Dywedodd y Prif Weithredwr Owain Gruffydd: “Rydym yn falch iawn ein bod fel cwmni yn ehangu ymhellach, yn dilyn y galw cynyddol am ein gwasanaethau cyfieithu a chynllunio iaith – nid yn unig yn yr ardal hon, ond ledled Cymru.

“Mae’n bleser hefyd gallu cynnig cyflogaeth i bobol leol a sicrhau swyddi, yn ogystal â darparu gwasanaethau cyfieithu a chynllunio iaith i sefydliadau, cwmnïau a busnesau lleol yn yr ardal.”