Louise Lucas
Mae disgwyl tyrfa fawr ar rai o strydoedd Caerdydd heddiw ar gyfer angladd plismones 41 oed a gafodd ei lladd mewn damwain ffordd.

Fe fydd gorymdaith y cynhebrwng yn aros am ychydig y tu allan i Orsaf Heddlu Llanisien, lle’r oedd Louise Lucas yn Sarjiant cyn gorffen yn Eglwys Cyncoed.

Fe fydd gwasanaeth arall wedyn ym Mynwent Draenen Pen-y-Graig ac mae rhybudd y bydd rhai ffyrdd yn cael eu cau rhwng tua hanner dydd a thri y prynhawn.

Newidiadau yn Abertawe

Roedd y fam i dri o blant wedi ei lladd mewn damwain ar y Kingsway yn Abertawe pan oedd yn siopa gyda’i merch ar ddiwrnod ola’ mis Mawrth.

Fe arweiniodd hynny at newidiadau yn y drefn draffig ar y ffordd yng nghanol y ddinas.

Roedd yna lwyth o deyrngedau wedi’u talu iddi yn canmol ei phersonoliaeth fywiog a’i gwaith gyda’r gymuned yn ardal Rhiwbeina a Llanisien.

Yn ôl rhai o’i chydweithwyr, roedd hi’r math o berson a fyddai’n “goleuo ystafell”.