Mae ymchwiliad i farwolaeth bachgen saith oed o Dal-y-bont ar Wysg yn Ffrainc wedi dweud nad oedd e wedi marw o ganlyniad i esgeulustod, yn ôl Mail Online.

Plymiodd Carwyn Scott-Howell 160 troedfedd oddi ar glogwyn tra’n sgïo yn Flaine ar wyliau gyda’i deulu ar Ebrill 10.

Yn ôl yr erlynydd, ‘damwain drasig’ oedd ei farwolaeth.

Cafodd Carwyn ei wahanu oddi wrth ei deulu cyn mynd i ardal goediog oddi ar y llethr.

Rhoddodd ei fam wybod i’r awdurdodau nad oedd e wedi dychwelyd ar ddiwedd y dydd.

Yn ôl yr ymchwiliad, roedd digon o arwyddion o amgylch y llethr i gynorthwyo sgïwyr.

Teyrngedau

Roedd Carwyn yn ddisgybl yn Ysgol y Bannau, Aberhonddu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol adeg ei farwolaeth: “Mae’r ysgol yn galaru colli un o’i ddisgyblion, Carwyn Scott-Howell; disgybl bywiog a hoffus a byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr.

“Rydym ni fel cymuned estynedig, Ysgol y Bannau, staff, disgyblion, rhieni a Llywodraethwyr, yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu; mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda nhw.”

‘Sioc’

Dywedodd y cynghorydd Liam Fitzpatrick o Dal-y-bont ar Wysg bod y gymuned “mewn sioc” a bod y ddamwain “yn drasig.”

“Mae’n bentref bach iawn ac mae pawb yn adnabod ei gilydd, yn enwedig ei rieni sy’n adnabyddus oherwydd eu busnes.

“Fe fydd cefnogaeth fawr iddyn nhw fan hyn pan fyddan nhw’n dod ‘nôl. Fe fydd y gymuned yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd bosib.”