Fred Hatch gyda'i wraig Enid
Mae dyn 73 oed wedi’i ddedfrydu i gyfnod amhenodol mewn uned ddiogel ar ôl cyfaddef iddo ladd ei gymydog.

Roedd Alan Rogers wedi gwadu llofruddio Fred Hatch yn ei gartref yn Ninas Powys, ond fe blediodd yn euog i ddynladdiad ar sail salwch meddwl.

Dywedodd Rogers wrth yr heddlu ei bod yn “ddyletswydd” arno i ladd ei gymydog am ei fod yn credu ei fod yn ymwneud a dewiniaeth, a’i fod wedi bod yn aros am gyfle i’w ladd.

Roedd Rogers wedi cuddio morthwyl mewn cwdyn plastig cyn ymosod ar Fred Hatch ar Hydref 8 y llynedd.

Clywodd y llys fod Rogers yn dioddef o sgitsoffrenia.

‘Torcalonnus’

Yn dilyn yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd teulu Fred Hatch mewn datganiad: “Roedd Fred yn ŵr, tad, brawd a thad-cu cariadus.

“Cafodd Fred ei lofruddio mewn modd ciaidd mewn ymosodiad hollol annisgwyl gan gymydog ynysig.

“Fel teulu, rydym yn torri’n calonnau ein bod ni wedi cael ein hamddifadu o flynyddoedd olaf bywyd Fred, a’r cyfle i rannu amserau annwyl.

“Mae pawb oedd yn adnabod Fred yn gweld ei eisiau; roedd yn ddyn caredig, gofalgar, tawel, addfwyn.

“Mae ein bywydau wedi newid am byth ac rydym yn dorcalonnus.”

Ychwanegodd y teulu eu bod nhw’n “ddiolchgar na fydd Alan Rogers yn cael y cyfle i niweidio teulu arall ac achosi’r boen a’r loes” maen nhw wedi’i ddioddef.

Diolchodd y teulu i’r gwasanaethau brys a staff Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac i Heddlu’r De am eu cefnogaeth.