Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi cynyddu rhywfaint yn y polau piniwn, yn ôl yr ystadegau cyntaf am Gymru i gael eu rhyddhau ers i Leanne Wood fod yn rhan o’r ddadl deledu Brydeinig.

Ond mae’r blaid dal yn bedwerydd yng Nghymru gyda 12% – Llafur sydd ar y blaen gyda 40%, mae’r Ceidwadwyr ar 27%, ac mae UKIP ar 13%.

Dywedodd 6% y bydden nhw’n pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7 Mai, ac roedd y Blaid Werdd ar 4%.

Hwn yw’r pôl cyntaf sydd yn pwyso’r canlyniadau ar sail pa mor debygol yr oedd pobl o fynd i bleidleisio, ychydig dros dair wythnos cyn yr etholiad.

Cynnydd bychan

Daw’r pôl diweddaraf gan YouGov ar gyfer ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru pythefnos ers i YouGov gyhoeddi ei un diwethaf hi, ychydig cyn y ddadl deledu.

Bryd hynny roedd Llafur ar 40%, y Ceidwadwyr ar 27%, UKIP ar 13%, Plaid Cymru ar 9%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 6% a’r Gwyrddion ar 5%.

Roedd Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl codi yn y polau piniwn ar ôl ymddangosiad eu harweinydd Leanne Wood yn y dadleuon Prydeinig a’r ymateb gafodd hi wedyn.

Mae’r pôl piniwn diweddaraf yn cynnig rhywfaint o dystiolaeth bod hynny wedi digwydd, ond does dim newid sylweddol i gefnogaeth yr un o’r pleidiau.

Bydd y ddadl deledu Brydeinig nesaf yn digwydd heno (nos Iau 16 Ebrill) ar y BBC gydag arweinwyr pump o’r pleidiau – Ed Miliband (Llafur), Natalie Bennett (Y Blaid Werdd), Nigel Farage (UKIP), Nicola Sturgeon (SNP), a Leanne Wood (Plaid Cymru).

Fodd bynnag, ni fydd arweinydd y Ceidwadwyr David Cameron nac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yn cymryd rhan.

‘Negeseuon positif’

Dywedodd Dafydd Wigley, cydlynydd etholiad Plaid Cymru: “Mae’r pôl hwn yn dangos fod cefnogaeth Plaid Cymru yn cynyddu.

“Mae mwy a mwy o bobl yn cynhesu tuag at negeseuon positif Plaid Cymru a Leanne Wood wrth iddynt glywed am ein cynlluniau i roi terfyn ar lymder a rheolaeth Dorïaidd. Yn ogystal â’n seddi presennol, rydym yn gweld ein cefnogaeth yn cynyddu mewn llefydd fel Ynys Môn, Llanelli a Cheredigion.

“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau ein canlyniad gorau erioed yn San Steffan a’r fargen orau posib i Gymru.”