Leanne Wood fel mae'n ymddangos yn y llun
Mae cwpwl a ddaeth i amlygrwydd am arlunio wynebau ar eu fersiwn unigryw o sticeri Panini ar gyfer Cwpan Pêl-droed y Byd y llynedd wedi mentro i fyd gwleidyddiaeth ar gyfer eu prosiect nesaf.

Mae’r ‘Panini Cheapskates’ – neu Alex a Sian Pratchett o Rydychen – wedi mynd ati i arlunio wynebau’r holl arweinwyr gwleidyddol ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Cafodd y ddau eu hysbrydoli gan y dadleuon teledu.

Roedd eu hymdrechion yn 2014 yn destun ffilm, llyfr ac arddangosfa.

Ar eu gwefan, dywed Alex Pratchett: “Dydyn ni ddim yn siŵr beth ddaeth drosom ni ond gydag etholiad ar y gorwel a’r sianel deledu wedi’i throi’n betrus at y ddadl deledu gyntaf, cawsom ein hunain wedi’n gorchfygu gan chwant ar unwaith i anfarwoli wynebau eithriadol rhai o fawrion gwleidyddol y genedl ym myd Panini.

“Dwi’n gwybod, mae’n syniad ofnadwy, ac mae’r canlyniadau, fel y disgwylir, yn erchyll.”