Huw Lewis - wedi annerch cynhadledd NASUWT
Mae Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru wedi bod yn annerch cynhadledd undeb athrawon yr NASUWT yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd.

Mae Huw Lewis wedi rhybuddio fod etholiad cyffredinol Mai 7 yn allweddol i ysgolion ar hyd a lled Cymru.

Mae’r etholiad Prydeinig, meddai, yn ddewis rhwng dau fath o addysg – y naill wedi’i seilio ar ddarnio, marchnad rydd ac ysgolion annibynnol, a’r llall wedi’i seilio ar barch, ar ddatblygiad proffesiynol a safonau uwch yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae’r etholiad hwn yn un allweddol i ysgolion,” meddai Huw Lewis. “Mae addewid David Cameron i godi 500 o ysgolion annibynnol ar hyd a lled Lloegr, yn dangos yr hyn fyddai’n digwydd pe bai’r Ceidwadwyr yn ennill ar Fai 7.

“Yng Nghymru (lle mae Addysg wedi’i ddatganoli) r’yn ni’n cynnig dewis gwahanol – safon a golwg fyd-eang i’n hysgolion… fe allwch chi weld hyn yn y gwaith yr ydyn ni wedi’i wneud ar raglen Her Ysgolion Cymru… ac mae’n cael effaith bositif ar yr ysgolion sy’n rhan o’r cynllun.

“Mae’n fodel sy’n rhoi cefnogaeth i athrawon a staff, mae’n rhannu arbenigedd yn lle codi cywilydd ar ysgolion. Mae wedi’i seilio ar weithio gyda phobol broffesiynol, nid yn eu herbyn nhw. “