Archesgob Cymru
Efallai na fedrwn ni brofi fod Duw yn bod, na bod Iesu Grist wedi codi o farw’n fyw, meddai Archesgob Cymru. Ond mae’r ddau yn cyffwrdd ein bywydau mewn “eiliadau o atgyfoadi”, meddai’r Gwir Barchedicaf Barry Morgan yn ei neges Basg.

“Nid ar sail ffaith a rheswm y mae pobol yn dod at y ffydd, mewn gwirionedd,” meddai. “Yn y diwedd, mae’n ymwneud a’r teimlad ein bod ni wedi cael ein galw a’n cyfarch gan Dduw ar adegau yn ein bywydau.

“Mae’r galw hwnnw yn digwydd mewn nifer o ffyrdd,” meddai wedyn. “Trwy wrando ar gerddoriaeth, gwylio machlud prydferth neu trwy gael ein cyffwrdd gan garedigrwydd dieithriaid neu ffrindiau.”

Eiliadau o atgyfodiad

“R’yn ni’n gweld pwer Duw pan mae offeiriad yn Syria yn gwrthod gadael ei gynulleidfa, ac yn cael ei ladd…” meddai Barry Morgan.

“Neu, pan mae rhieni plant sydd wedi’u llofruddio yn gallu maddau i’r llofruddwyr… Pan mae pobol dlawd yn rhannu’n cyn lleied sydd gyda nhw gydag eraill…

“Pan mae pobol yn rhoi buddiannau pobol eraill o flaen eu hanghenion eu hunain… Dyma’r eiliadau sy’n datgoddio ac yn trawsnewid, oherwydd maen nhw’n gwneud i ni deimlo daioni a gras mewn sefyllfaoedd sy’n llawn drygioni a gormes.

“Eiliadau o atgyfodiad sy’n rhoi gobaith i ni.”