Mark Drakeford - rhaid i gymdeithas newid
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd gwerth £1 miliwn i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn demensia yng Nghymru.
Un o’r prif amcanion fydd cynyddu canran y bobol sy’n cael diagnosis – ar hyn o bryd, dim ond 43% o ddioddefwyr sydd wedi cael diagnosis.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, mae angen codi hynny i 50% erbyn 2016.
Croesawu
Mae’r cynlluniau newydd wedi cael croeso gan Gymdeithas Alzheimer Cymru, sy’n rhybuddio bod problem dryswch meddwl yn cynyddu’n gyflym.
Maen nhw’n dweud bod demensia gan 45,000 o bobol yng Nghymru ac mae llawer ohonyn nhw’n stryffaglu i ymdopi.
“Fe ddylai pawb sydd â demensia gael sicrwydd diagnosis a’r hawl i’r cymorth iawn i ddod i delerau â’r cyflwr, a byw’n dda,” meddai’r Cyfarwyddwr, Sue Phelps.
Rhai o’r manylion
Mae’r cynllun newydd yn cynnwys:
- Recriwtio 32 o ofalwyr arbenigol newydd i rhoi cymorth a chyngor a chodi ymwybyddiaeth.
- Cymorth i gartrefi nyrsio a chartrefi preswyl hyfforddi staff ac addasu adeiladau – fe fydd 4 o nyrsys arbenigol newydd yn helpu gyda hynny.
- Hyfforddi meddygon teulu i ddelio gyda’r cyflwr.
- Recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr i godi ymwybyddiaeth a chadw llygad am arwyddion demensia.
‘Rhaid i gymdeithas newid’
“Bydd rhaid i’n cymdeithas newid i gwrdd â’r galw, gan ddod yn fwy ymwybodol o arwyddion a symptomau demensia,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
“Bydd rhaid i bawb sy’n gweithio y nein gwasanaeth iechyd ddod yn fwy ymwybodol o’r afiechyd a gwybod pa ofal, cyngor a chymorth y gallan nhw ei gynnig i wella bywydau pobol.”