Mae cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod cynllun uchelgeisiol hirdymor i ddenu mwy o dwristiaid i’r brifddinas.

Mae twristiaid eisoes yn cyfrannu £2bn i economi Caerdydd, a gobaith y Cyngor yw sicrhau ei bod yn borth i weddill Cymru.

Y sector preifat fydd yn arwain strategaeth twristiaeth y rhanbarth, gan gydweithio’n agos â chorff Croeso Cymru a Visit Britain, ynghyd â thair prifysgol y brifddinas.

Mae’r Cyngor yn gobeithio sicrhau erbyn 2020 fod Caerdydd yn un o brif gyrchfannau i dwristiaid y byd.

Fel rhan o’r strategaeth, mae’r Cyngor yn gobeithio:

• Dyblu gwerth twristiaeth o ran llety i £800 miliwn • Sicrhau £500 miliwn o fuddsoddiad • 1,500 o ystafelloedd gwely 4* a 5* newydd yn y brifddinas • Cydweithio â Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y digwyddiadau byd-eang o statws ryngwladol sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd • Sicrhau bod Caerdydd yn borth i weddill Cymru • Creu brand dinesig i Gaerdydd, gan ychwanegu at y gwaith a gafodd ei wneud gan Lywodraeth Cymru eisoes.

“Cymaint i’w gynnig”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Mae gan Gaerdydd gymaint i’w gynnig i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yma ac i ymwelwyr.

“Bellach rhaid i ni adeiladu ar sail y llwyddiant hwn drwy gydweithiol â’n partneriaid i atgyfnerthu statws Caerdydd fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer twristiaeth busnes a hamdden.

“Rydym wedi cyflawni gwaith gwych i ddenu ymwelwyr i ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol pwysig. Bellach mae angen i ni adeiladu ar sail hyn i sicrhau bod y Brifddinas yn cynnig mwy i dwristiaid yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Terry Stevens, ymgynghorydd Twristiaeth Cyngor Dinas Caerdydd: “Mae Sefydliad Twristiaeth Byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn rhagweld y bydd twristiaeth fyd-eang yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gyda twristiaeth ddinesig yn ffactor allweddol o ran hynny.

“Mae gan Gaerdydd a’r brifddinas-ranbarth gyfle gwych i fanteisio ar y diddordeb cynyddol hwn mewn ymweld â dinasoedd.

“Er mwyn llwyddo, mae angen i ni adrodd ‘stori’ Caerdydd – ein treftadaeth, ein diwylliant a’n pobl.

“Rhaid i ni adeiladu ar sail llwyddiant uwchgynhadledd NATO a digwyddiadau gwych eraill megis Cwpan Rygbi’r Byd eleni a Ras Hwylio o Amgylch y Byd Volvo yn 2018.

“Rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r maes gydweithio’n agosach o lawer i greu profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf.

“Mae hyn yn golygu ymrwymiad i ragor o fuddsoddiad mewn llety masnachol, creu rhagor o atyniadau yn y Bae, gwella cysylltiadau cyfathrebu ac, wrth gwrs, marchnata cydweithredol a gwella profiad ymwelwyr yn barhaus.”