Mae Wrecsam wedi cael eu curo gan North Ferriby yn ffeinal Tlws yr FA yn Wembley.

Aeth yr ornest i giciau o’r smotyn wedi iddi orffen yn gyfartal 3-3 ar ddiwedd amser ychwanegol.

Wrecsam aeth ar y blaen wedi 10 munud, diolch i Louis Moult, ac roedd y Cymry’n edrych yn hyderus yn eu hail rownd derfynol mewn tri thymor yn Wembley.

Dyblodd Jay Harris fantais Wrecsam wedi 58 munud.

Ond tarodd North Ferriby yn ôl o’r smotyn wedi 76 o funudau, ac unionodd Ryan Kendall y sgôr naw munud yn ddiweddarach.

Roedd Wrecsam yn syfrdan yn hanner cynta’r amser ychwanegol, wrth i North Ferriby fynd ar y blaen, diolch i ail gôl Kendall.

Ond cipiodd Moult yntau ei ail gôl ddwy funud cyn y chwiban olaf i sicrhau bod rhaid i’r canlyniad gael ei benderfynu o’r smotyn.

Methodd Connor Jennings, Neil Ashton a Steve Tomassen o’r smotyn wrth i North Ferriby gipio’r fuddugoliaeth o 5-4.