Mae ystadegau newydd sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw yn awgrymu bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu fwy na 10.5% rhwng 2004 a 2014.

Er mwyn adeiladu ar y cynnydd hwn, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfres o fesurau newydd gyda’r bwriad o’i gwneud yn haws i feddygon teulu gychwyn gweithio neu ddychwelyd i weithio yng Nghymru.

Ymhlith y mesurau mae cynllun i feddygon o dramor gael eu cyfweld cyn iddyn nhw gyrraedd y wlad yn ogystal ag asesiad mwy trylwyr o sgiliau unigolyn a’r gefnogaeth mae ei angen.

‘Heriau’

Er ei fod yn croesawu’r cynnydd mewn meddygon teulu, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford hefyd yn cydnabod bod heriau wrth geisio cyflogi mwy o weithwyr iechyd “mewn rhannau o Gymru, fel ym mhob man arall”:

“Rydym yn parhau i gyd-weithio’n agos gyda’r GIG er mwyn denu’r dalent feddygol orau ond rydym yn ceisio gwneud hyn mewn marchnad ryngwladol galed iawn. Mae sawl gwlad yn Ewrop yn wynebu prinder meddygon teulu,” meddai.

“Mae’r newidiadau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw am fod yn gymorth i sicrhau bod gan feddygon teulu ifanc fwy o opsiynau ar gael iddyn nhw – gan gynnwys cyfle i fod yn rhan o ymchwil ac addysgu yng Nghymru.”

‘Argyfwng recriwtio ar y gorwel’

Ond yn ôl Plaid Cymru, mae  “argyfwng recriwtio ar y gorwel” gan fod bron i chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn agosáu at oedran ymddeol.

Mae’r blaid hefyd yn honni bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi gostwng o 20 dros y flwyddyn a aeth heibio.

Dywed y blaid y byddai’n mynd i’r afael a’r broblem drwy recriwtio mil o feddygon newydd i’r GIG er mwyn cyrraedd yr un cyfartaledd a gwledydd Ewrop.

“Rydym eisoes wedi gweld gwasanaethau yn cael eu colli mewn cymunedau lleol oherwydd prinder meddygon, ac os na fyddwn ni’n recriwtio mwy o feddygon, fe fydd y tuedd hwn yn gwaethygu.

“Bydd Plaid Cymru yn hyfforddi ac yn recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r GIG yng Nghymru, ac yn defnyddio cymhellion ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu denu i ardaloedd lle mae eu hangen, fel y gall pawb yng Nghymru fynd at feddyg teulu pan gyfyd yr angen.”