Fe ddaeth tua 600 o bobol i angladd y ferch 17 oed Alesha O’Connor, un o’r pedwar o bobol fu farw mewn damwain car ar yr A470, y prynhawn yma.

Roedd hi’n fyfyrwraig yng Ngholeg Dewi Sant Caerdydd ac fe gafodd ei lladd ynghyd â Rhodri Miller, Corey Price a Margaret Challis yn y ddamwain fawr ar 7 Mawrth.

Cafodd yr angladd ei gynnal am hanner dydd yn Eglwys Babyddol Santes Helen, Y Barri.

Yfory y bydd angladd Rhodri Miller, 17, yn Eglwys Sant Cadog yn Nhregatwg, gyda gwasanaeth i Corey Price, 17, yn Eglwys y Santes Fair yn y Barri ddydd Mercher nesa’. Roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.

Fe ddaeth  2,000 o bobol i wasanaeth coffa yn Y Barri i gofio amdanyn nhw’r wythnos diwethaf.

Y ddamwain

Bu farw’r tri mewn damwain ger y Storey Arms ym Mannau Brycheiniog ar 7 Mawrth.

Y gred yw bod Rhodi Miller yn gyrru car Volkswagen Golf gwyrdd, gyda’r ddau arall yn deithwyr – pan aeth yn erbyn  VW Golf du yn cael ei yrru gan wraig 68 oed, Margaret Challis.

Fe fu hithau farw ond does dim dyddiad wedi’i roi ar gyfer ei hangladd hi.

‘Arestio’

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd car y bobol ifanc yn un o res o geir yn cael eu gyrru “mewn confoi” ac mae saith o ddynion ifanc wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio’r diwrnod wedyn.