Mae diweithdra yng Nghymru a ledled gwledydd Prydain wedi gostwng i’w lefel isaf ers cyn y chwalfa ariannol yn 2008.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystedegau Gwladol heddiw bod 13,000 yn llai o bobol yn ddiwaith yng Nghymru rhwng mis Tachwedd a Ionawr.

6.2% oedd cyfradd diweithdra yn Nghymru yn y cyfnod, o’i gymharu â 5.7% Prydain.

Mae nifer y bobl â swyddi wedi cynyddu 24,000 o’i gymharu ag Awst-Hydref, ond mae’r ffigwr yn parhau i fod 16,000 yn is na’r ffigwr flwyddyn cyn hynny.