Mae bachgen 13 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn ymgais i ladrata, wedi i gwpwl oedrannus gael eu bygwth gyda chyllell ym Mhorthcawl.

Cafodd y bachgen ei arestio yn dilyn y digwyddiad ar Rodfa’r Dwyrain am tua 12:40 brynhawn Sul.

Ni chafodd unrhyw eitemau eu cymryd yn ystod y digwyddiad ac ni chafodd y cwpl eu hanafu.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.