Y diweddar Conner Marshall (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn o Gaerffili mewn cysylltiad a llofruddiaeth Conner Marshall mewn parc gwyliau ym Mhorthcawl.

Bu farw Conner Marshall, 18, yn dilyn ymosodiad difrifol ym maes parcio parc carafanau Trecco Bay, Porthcawl, yn ystod oriau man Mawrth 8.

Neithiwr, fe gyhoeddodd yr heddlu bod dyn 27 mlwydd oed o Gaerffili wedi ei arestio yn Glasgow.

Daethpwyd o hyd i Conner Marshall am 7 o’r gloch fore Sul diwetha’, gydag anafiadau difrifol i’w gorff.