Mae plismyn yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth, wedi i griw o feicwyr ymosod ar yrrwr yn y brifddinas.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ddydd Gwener, Mawrth 6, a hynny yn Stryd Pendyris ac ar gornel Clare Road yn ardal Grangetown.

Roedd gwr 50 oed yn gyrru o gyfeiriad Llandaf ac yn aros i droi i mewn i Clare Road pan gafodd ei amgylchynu gan nifer o ddynion ar feiciau modur a beiciau cwad.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud i’r dynion bledu “cerrig mawr” at y car, gan achosi “difrod sylweddol” iddo.

Fe ddaeth y gyrrwr allan o’r car i drio dal pen rheswm gyda’r beicwyr, ac fe ddioddefodd ymosodiad pellach, meddai’r heddlu.