Mae dynes oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mro Morgannwg.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Benarth toc wedi 7.20 neithiwr yn dilyn adroddiadau bod tân yn lolfa’r tŷ.

Mae Heddlu’r De a’r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad.