Rhodri Miller ac Alesha O'Connor
Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal yn Y Barri heddiw wedi i bedwar o bobol gael eu lladd mewn gwrthdrawiad ar ffordd A470 ger Aberhonddu nos Wener.

Bu farw Rhodri Miller, Alesha O’Connor a Corey Price, i gyd yn 17 oed, pan darodd eu car yn erbyn y car yr oedd Margaret Challis, 68, yn teithio ynddo.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal cyn gêm academi clwb pêl-droed Caerdydd yn erbyn Casnewydd neithiwr, gan fod Corey Price yn arfer chwarae iddyn nhw, ac roedd Rhodri Miller yn ddeilydd tocyn tymor yr Adar Gleision.

Dywedodd y clwb mewn datganiad eu bod yn cydymdeimlo â’u teuluoedd.

Mae blodau wedi cael eu gosod y tu allan i Ysgol Bro Morgannwg yn Y Barri, lle’r oedd y ddau yn ddisgyblion, ac yng Ngholeg Dewi Sant yn y brifddinas er cof am Alesha.

Dywedodd mab Margaret Challis fod ei marwolaeth yn “ergyd greulon” i’r teulu, gan ychwanegu bod ei fam newydd wella ar ôl cael tiwmor ar ei hymennydd.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad.