Mae disgwyl i fwy o Aelodau Seneddol benywaidd nac erioed o’r blaen gael eu hethol yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 2015, yn ôl astudiaeth newydd gafodd ei gyhoeddi heddiw.

Dywedodd ERS Cymru eu bod yn disgwyl i 11 o ferched gael eu hethol o’r 40 AS fydd yn cynrychioli Cymru ar ôl 7 Mai.

Fe allai’r ffigwr fod mor uchel ag 14 neu mor isel â 9, medden nhw, ond naill ffordd fe fydd hi’n uwch na’r wyth gafodd eu hethol yn 2005, y nifer uchaf hyd yn hyn.

Camu lawr

Dywedodd ERS Cymru fod y newid yn rhannol oherwydd bod ASau gwrywaidd hŷn yn ymddeol eleni a bod eu pleidiau wedi dewis merched i’w olynu nhw.

Mae’r rhain yn cynnwys Liz Saville Roberts sydd wedi cael ei dewis gan Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd yn dilyn ymddeoliad Elfyn Llwyd, a Liz Evans sydd wedi cael ei dewis gan Lafur ym Mhenrhyn Gwyr i olynu Martin Caton.

Liz Saville Roberts fyddai AS benywaidd cyntaf erioed Plaid Cymru petai hi’n cael ei hethol.

Mae’r amcangyfrifon yn yr adroddiad yn seiliedig ar ba bleidiau sydd yn debygol o ennill seddau Cymru yn ôl y polau piniwn diweddaraf.

Ond fe allai’r nifer gynyddu os oes buddugoliaethau annisgwyl i rai ymgeiswyr benywaidd, megis i Lafur yn Aberconwy, Llafur yn Nwyrain Caerfyrddin a De Penfro, neu’r Democratiaid Rhyddfrydol ym Maldwyn.

Fe allai nifer yr ASau benywaidd hefyd fod yn llai na’r disgwyl os oes buddugoliaethau annisgwyl i ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli neu’r Ceidwadwyr yng Ngogledd Caerdydd.

Llafur yn arwain

O ran nifer yr ymgeiswyr benywaidd i bob plaid drwy Gymru gyfan, Llafur sydd wedi rhoi ymgeiswyr benywaidd ymlaen yn y nifer fwyaf o seddi (14).

O’r pleidiau eraill sydd wedi dewis ymgeisydd ym mhob un sedd yng Nghymru hyd yn hyn mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnig 13 ymgeisydd benywaidd, y Ceidwadwyr wedi cynnig 12, a Phlaid Cymru wedi cynnig 9.

Mae gan y Gwyrddion wyth ymgeisydd benywaidd ac mae gan UKIP chwech, ond does dim disgwyl i’r un o’r pleidiau hyn ennill seddau yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol.

O’i gymharu â’r Cynulliad fodd bynnag, mae llawer llai o ferched yn parhau i gynrychioli Cymru fel gwleidyddion yn San Steffan.

Petai 11 AS benywaidd yn cael eu hethol o Gymru yn 2015 fe fyddai hynny’n 27.5% o’r cyfanswm.

Ar hyn o bryd mae 40% o Aelodau Cynulliad yn ferched, a nôl yn 2003 roedd y canran mor uchel â 50%.