Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Caerfyrddin wedi cytuno i dalu am adeiladu ffordd gyswllt yng ngorllewin Caerfyrddin fydd yn creu cysylltiadau gyda phencadlys newydd S4C.

Cafodd yr amserlen ar gyfer y datblygiad gwerth tua £5 miliwn ei amlinellu yn fras mewn cyfarfod o fwrdd gweithredol y cyngor heddiw. Y gobaith yw y bydd wedi ei gwblhau erbyn 2018, cyn i’r pencadlys newydd agor.

Bydd y ffordd yn cysylltu’r A40 gyda Ffordd y Coleg, gan gynnig cyswllt uniongyrchol rhwng 1,000 o dai arfaethedig, ysgol gynradd a siopau â phencadlys newydd S4C yn y dref.

Dywedodd y cyngor y byddai’n gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill ac yn hawlio’r arian am y gost o adeiladu’r ffordd yn ôl drwy godi mwy o drethi ar ddatblygwyr y tai.

Dywedodd un o aelodau’r bwrdd gweithredol, Jeff Edmunds: “Er mwyn i’r gymuned weld y budd mwyaf ac i sicrhau bod y ffordd yn barod erbyn i’r pencadlys agor, mae’r bwrdd wedi cytuno ar ariannu’r datblygiad a’i greu yn gynharach na’r disgwyl.”