Mae’r heddlu sy’n chwilio am gyn-filwr 22 oed a aeth ar goll o Abertawe fis diwethaf wedi dod o hyd i gorff.

Cafodd ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd yn ardal Bryn Siriol o’r ddinas toc wedi 8 o’r gloch y bore yma.

Bydd y corff yn cael ei adnabod yn ffurfiol yn ddiweddarach heddiw, ac mae teulu Joshua Maddick wedi cael gwybod.