Yr Old Bailey
Mae mam a’i phartner lesbiaidd wedi’u cael yn euog o ddynladdiad merch wyth oed.

Fe benderfynodd y llys nad oedd y ddwy’n euog o lofruddio’r ferch yn eu cartref yn nwyrain Llundain ym mis Awst 2013.

Ond, ar ôl ystyried am fwy na 31 awr, fe benderfynodd y rheithgor o blaid y cyhuddiad llai, a hynny o 10-2..

Ffantasi

Clywodd llys yr Old Bailey fod Polly Chowdhury, 35, a Kiki Muddar, 43, mewn perthynas oedd yn seiliedig ar chwarae amryw gymeriadau ffantasi trwy gyfrwng Facebook.

Ar Awst 29, 2013, ffoniodd Muddar 999 gan ddweud bod Chowdhury wedi ceisio’i lladd ei hun yn y bath, a bod Ayesha wedi marw.

Daeth parafeddygon o hyd i gorff y plentyn yn ei hystafell wely, ac roedd ganddi fwy na 40 o anafiadau.

Rheoli

Mewn sawl nodyn, dywedodd Polly Chowdhury mai hi oedd wedi lladd y plentyn.

Ond yn ystod yr ymchwiliad, daeth yr heddlu i’r casgliad fod gan Kiki Muddar ran yn ei marwolaeth hefyd.

Daeth yr heddlu o hyd i negeseuon Facebook lle’r oedd hi’n ymddangos bod Kiki Muddar yn rheoli Polly Chowdhury a’i bod hi’n gweld y ferch yn fygythiad i’w perthynas nhw.