Maes Awyr Llanbedr ger Harlech
Mae maes awyr Llanbedr ger Harlech yn un o chwe safle sydd ar restr fer ar gyfer adeiladu porth ofod parhaol cyntaf Prydain.
Yn dilyn ymgynghoriad tri mis o hyd, cafodd pum safle parhaol ac un dros dro eu dewis gan Lywodraeth San Steffan, sef:
- Campbeltown (Yr Alban);
- Glasgow Prestwick (Yr Alban);
- Stornoway (Yr Alban);
- Newquay (Lloegr);
- Llanbedr (Cymru);
- RAF Leuchars (Yr Alban – dros dro).
Cafodd safleoedd Leuchars yn Fife a Kinloss Barracks yn Moray eu diystyru ar sail “rhesymau gwarchodaeth filwrol”.
Cludo teithwyr i’r gofod
Y bwriad yw cael porth ofod sy’n weithredol erbyn 2018, a allai gael ei ddefnyddio i gludo teithwyr i’r gofod. Fe all y diwydiant greu 100,000 o swyddi a fyddai’n werth £40 biliwn i’r economi, yn ôl gweinidogion.
Bydd lloerenni masnachol hefyd yn cael eu lansio o’r maes awyr dewisedig.
Mae disgwyl i’r teithiau cyntaf i’r gofod gan gwmni Virgin Galactic lansio o New Mexico yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau’r flwyddyn nesaf. Bydd teithwyr yn talu £120,000 am daith 150 munud fydd yn dringo 62 milltir i’r gofod.
Dywedodd Gweinidog y Llywodraeth, Robert Goodwill: “Rwyf am i Brydain arwain y ffordd i deithiau awyr masnachol. Bydd sefydlu porth gofod yn sicrhau ein bod ar flaen y gad gyda’r dechnoleg gyffrous newydd yma.”
Y cam nesaf fydd datblygu adroddiad manwl ynglŷn ag anghenion technegol y porth ofod gan yr Adran Drafnidiaeth, i’w gyhoeddi’n ddiweddarach eleni, cyn gwahodd ceisiadau.