Mae dyn o Abercannaid, Bro Morgannwg wnaeth ymosod yn anweddus ar fachgen ifanc yn y 1970au wedi cael ei garcharu.

Fe fydd David Mark James, 66 oed, yn treulio tair blynedd a hanner dan glo wedi iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Harrow, Llundain heddiw.

Roedd ymchwiliad i’r ymosodiad wedi dechrau ym mis Mai 2013 ar ôl i’r dioddefwr roi gwybod i’r heddlu ei fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol gan David James mewn tŷ yn Brent, gogledd Llundain pan oedd yn bum mlwydd oed.

Roedd James wedi gwadu’r cyhuddiad ond fe’i cafwyd yn euog o un achos o ymosod yn anweddus.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Luke Williams fod yr heddlu yn credu bod David James wedi cam-drin plant eraill yn rhywiol  gan apelio arnyn nhw i gysylltu â’r heddlu.

Ychwanegodd: “Fe fydd James yn gorfod byw o dan y Gorchymyn Atal Troseddau Rhyw am oes er mwyn gwarchod plant eraill wedi iddo gael ei ryddhau.”