Disgyblion Ysgol Gynradd Saron, Rhydaman yn bwyta cawl
Fe gafodd dros 19,000 o fowlenni o Gawl Cymreig eu bwyta yn ysgolion Sir Gâr i nodi Dydd Gŵyl Ddewi eleni.
Roedd y cyngor wedi trefnu bod disgyblion cynradd ac uwchradd yn cael y cawl cig eidion a bara gyda chaws i ginio bnawn ddoe.
Yn ogystal â’r pryd o fwyd, roedd y cyngor wedi ceisio addysgu rhai disgyblion ynglŷn â bwyta’n iach drwy anfon y masgot Dylan y Ddraig i Ysgol Gynradd Saron, Rhydaman.
“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw bwyta’n iach i ddatblygiad plentyn. Mae disgyblion sy’n bwyta diet iach cytbwys yn fwy tebygol o fod yn fwy effro mewn dosbarth a bod a mwy o egni,” meddai Rheolwr Gwasanaeth Arlwyo’r sir, Sandra Weigel.
Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trefnu’r pryd o fwyd mewn partneriaeth a Thîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerfyrddin a Dietegwyr y GIG.