Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi yn dangos bod pobol yn aros llai o amser i dderbyn triniaeth mewn adrannau brys yng Nghymru.

O blith y 73,199 o bobol a aeth i adrannau brys ym mis Ionawr, cafodd 82.3% o bobol eu trin o fewn pedair awr.

Dim ond 81% a gafodd eu trin o fewn yr amser targed y mis blaenorol.

Er gwaetha’r gwelliant, mae’r ganran yn parhau ymhell o dan y targed o 95% a gafodd ei gosod gan Lywodraeth Cymru.

‘Gwarthus’

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams bod y ffigurau dal yn “warthus”.

Mewn datganiad dywedodd: “Yn ddiau fe fydd Llywodraeth Cymru’n llawenhau yn y gwelliant o 1% o’i gymharu â mis diwethaf, ond y ffaith yw bod y ffigurau hyn yn warthus.

“Mae staff adrannau brys sy’n gweithio’n galed yn gwneud popeth o fewn eu gallu ond yn anffodus, maen nhw’n cael eu dal yn ôl gan ddiffyg uchelgais Llywodraeth Lafur Cymru.

“Mae angen gwelliannau dirfawr yn ein hadrannau brys.

“Mae’n destun siom fod mwy na 3,000 o bobol wedi treulio mwy na 12 awr mewn adrannau brys.

“Yr hyn sy’n amlwg i fi yw bod y Gwasanaeth Iechyd yn fater rhy fawr i’w adael i un blaid.

“Yr hyn sydd ei angen yw comisiwn i archwilio’r materion sy’n wynebu ein Gwasanaeth Iechyd, comisiwn sy’n cydweithio â phobol broffesiynol ym maes iechyd a chleifion, i edrych ar ddyfodol ein Gwasanaeth Iechyd a sut y gall ateb yr heriau difrifol y mae’n eu hwynebu yn y dyfodol.”

‘Sgandal’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar ei bod yn “hollol warthus” fod rhaid i fwy na 3,000 o gleifion aros mwy na 12 awr i gael triniaeth mewn adrannau brys fis diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd: “Dyma’r amseroedd aros ail waethaf ar gofnod ar gyfer adrannau brys Cymru, sy’n dangos bod un o bob pump o gleifion yng Nghymru’n cael eu gorfodi i aros mwy na phedair awr, tra bod mwy nag un o bob deg mewn rhai ysbytai’n aros mwy na 12 awr i gael eu gweld.”

Ychwanegodd fod yr amseroedd aros yn rhan o “waddol” Llywodraeth Cymru, “sy’n cynnwys lleihau nifer y gwlâu, canoli gwasanaethau ac israddio ysbytai.”

Dywedodd y dylai gweinidogion Llywodraeth Cymru deimlo “cywilydd”.

“Ni ddylai unrhyw glaf ddioddef diffyg urddas drwy orfod aros mwy na 12 awr mewn adrannau brys, ond dyma’r sgandal sy’n digwydd bob dydd yn y Gwasanaeth Iechyd o dan arweiniad y Blaid Lafur oherwydd, yn wahanol i bob rhan arall o’r DU, fe dorrodd Llafur gyllideb y Gwasanaeth Iechyd.

“Rhaid i weinidogion Llafur wyrdroi eu toriadau mwyaf erioed i’r Gwasanaeth Iechyd a mynd i’r afael â’r sgandal cenedlaethol o ran adrannau brys Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:  “Mae pwysau ar ofal brys a gwasanaethau ysbytai dros y gaeaf yn broblem sydd i’w gweld ledled y Deyrnas Unedig, sy’n gysylltiedig â chynnydd yn nifer y cleifion hŷn ag anghenion cymhleth sydd angen gofal yn yr ysbyty.

“Ar y cyfan, mae adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru yn gweld mwy o gleifion; tua 116,000 yn fwy o gleifion y flwyddyn nawr nag ar ddechrau datganoli.

“Er gwaetha’r cynnydd mewn galw, mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer mis Ionawr yn dangos y treuliodd wyth o bob 10 claf lai na phedair awr mewn unedau damweiniau ac achosion brys o gyrraedd nes eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. 82.3% oedd y ffigur hwn, sy’n well na’r mis blaenorol.

“Fodd bynnag, mae nifer y cleifion sy’n aros dros 12 awr yn annerbyniol. Rydym yn disgwyl i’r byrddau iechyd weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod modd trin, derbyn a rhyddhau cleifion yn briodol, a’u bod yn derbyn gofal diogel ac effeithiol.”