Llun gwneud o Forlyn llanw Bae Abertawe
Bydd cwmnïau Cymru a’r DU yn chwarae rhan ganolog wrth adeiladu morlyn pŵer llanw cyntaf yn y byd yn Abertawe, meddai datblygwyr y pwerdy heddiw.

Y cwmnïau rhyngwladol, General Electric a Andritz Hydro, sydd wedi ennill y tendr i gyflenwi tyrbinau ar gyfer y prosiect gwerth £1 biliwn ym Mae Abertawe ac maen nhw wedi ymrwymo i wneud y rhan fwyaf o’r cydrannau ym Mhrydain.

Yn ogystal, dywed Tidal Lagoon Power, y cwmni sydd tu ôl i’r datblygiad, y bydd y tyrbinau i gyd yn cael eu cynhyrchu mewn cyfleuster newydd yng Nghymru a fydd yn cyflogi hyd at 100 o weithwyr.

Mae Tidal Lagoon Power yn gobeithio y bydd morlyn Abertawe, fyddai’n cynhyrchu trydan adnewyddadwy gyda phŵer y llanw,  yn cael ei ddilyn gan bump o rai tebyg ar arfordir y DU.

Gallai chwe morlyn gynhyrchu hyd at 8% o drydan y DU dros y 120 mlynedd nesaf gan ddatblygu cadwyn gyflenwi morlynnoedd llanw a allai weld Cymru yn allforio technoleg ac arbenigedd i weddill y byd.

‘Trawsnewid economi’r de’

Dywedodd Mark Shorrock, prif weithredwr Tidal Lagoon Power:  “Rydym ni mewn sefyllfa dda i gyrraedd y targed rydym ni wedi gosod i’n hunain, sef y bydd 50% o’r gwariant ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe yn cael ei wario yng Nghymru.

“Bydd y prosiect yn gosod y sylfeini cryfaf posibl ar gyfer diwydiant newydd sbon lle y gall Prydain arwain y byd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod y cyhoeddiad yn dangos hyder yng ngweithlu Cymru a bod ganddo’r potensial i drawsnewid economi de Cymru.