Mae Sam Warburton yn cefnogi'r ymgyrch atal gor-yfed
Wrth i Gymru baratoi i gychwyn eu hymgyrch Chwe Gwlad yn y gêm enfawr yn erbyn Lloegr heno, mae Heddlu’r De wedi rhybuddio y gall cefnogwyr dderbyn dirwy o £1,000 os ydyn nhw’n prynu alcohol i rywun sydd wedi meddwi’n barod.

Ychwanegodd Comisiynydd Trosedd Heddlu’r De, Alun Michael, y gall bobol gael eu taflu allan o Stadiwm y Mileniwm neu o dafarndai os ydyn nhw’n prynu diod i ffrind sy’n feddw.

Mae capten Cymru, Sam Warburton, a gweddill y tîm cenedlaethol yn cefnogi’r ymgyrch, fydd hefyd yn parhau am weddill y flwyddyn.

Fe fydd tua 80 o swyddogion heddlu yn gweithio yng nghanol dinas Caerdydd heno ac mae disgwyl i 180,000 o bobol lenwi’r strydoedd.

Bydd y gic gyntaf am 8:05 heno.