Cynllun y carchar yn Wrecsam
Dyw deddfau iaith ddim wedi rhoi mwy o hawliau i garcharorion Cymraeg eu hiaith, meddai ymgyrchydd wrth aelodau seneddol.

Does fawr ddim wedi newid tros y 40 mlynedd diwetha’, meddai Cen Llwyd o Gymdeithas yr Iaith – roedd wedi ei garcharu yn ôl yn yr 1970au.

Fe ddywedodd wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterionb Cymreig fod achosion diweddar yn dangos nad oedd dim rhagor o hawliau gan garcharorion i ddefnyddio’r Gymraeg.

Yr unig ateb, meddai, oedd datganoli’r gwasanaeth carchardai.

‘Dim gwahaniaeth’

“Byrdwn y peth ydi pan fo’r Gymraeg yn y cwestiwn, does yna ddim gwahaniaeth rhwng fy nghyfnod yn y carchar yn 1978 a nawr, er fod Deddf yr Iaith Gymraeg wedi bod,” meddai Cen Llwyd.

Fe ddywedodd fod gwahaniaeth mewn agweddau at y Gymraeg rhwng adrannau sydd wedi datganoli a rhai sy’n dal i fod yn rhan o Lywodraeth Prydain.

“O ran sefydliadau fel y Swyddfa Gartref, d’yn ni ddim yn gweld yr un parodrwydd yno mewn perthynas â’r Gymraeg o’i gymharu gyda sefydliadau sydd wedi’u datganoli ac felly dw i’n gweld bod angen  datganoli y system gyfreithiol”

Wrecsam – galw am garchar dwyieithog

Roedd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws hefyd yn rhoi tystiolaeth am y gwasanaeth carchardai, ac yn benodol y carchar arfaethedig yn Wrecsam.

Fe fynnodd Meri Huws fod angen sicrhau fod y carchar hwn yn ddwyieithog.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd “Mae angen cynllunio ar gyfer creu gweithlu dwyieithog  [yn Wrecsam] a bod yna ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y carchar.”

Yn yr un cyfarfod, datgelodd Meri Huws ei bod wedi derbyn pum cwyn yn erbyn y gwasanaeth carchardai.