Mae 44 o swyddi yn y fantol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dilyn y cyhoeddiad bod cwmni Rockwell Automation wedi penderfynu cau dwy swyddfa.
Mae’r swyddi’n effeithio ar weithwyr Lektronix, un o gwmnïau Rockwell Automation, yng Nghymru ac ym Mhortiwgal.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i gau’r swyddfeydd er mwyn bod mor gystadleuol â phosib ar lefel ryngwladol.
Eu gobaith wrth gau’r swyddfeydd, medd y cwmni, yw cynyddu elw’r busnes.
Mae’r penderfyniad yn peryglu naw o swyddi ym Mhortiwgal.
Ychwanegodd y cwmni y bydd modd i weithwyr yn y ddwy swyddfa wneud cais am swyddi mewn adrannau eraill, sy’n cynnwys nifer o swyddi yng Nghanolbarth Lloegr.
“Mae Rockwell Automation yn parhau i weithio tuag at ei amcanion perfformio a thyfu’n fyd-eang drwy wneud y defnydd gorau o’n gwasanaethau a’n gweithrediadau i sicrhau safonau rhagorol a pherfformiad o ran cyflwyno gwasanaethau i gwsmeriaid am y gost isaf bosib.”