Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn achos o losgi bwriadol yng nghanol tref Y Fenni ar Ddiwrnod San Steffan.

Cafodd adeilad ei roi ar dân ger Ffordd Merthyr rhwng 8 a 8:30 yr hwyr. Nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Mae llygad dystion wedi dweud eu bod wedi gweld tri dyn yn yr ardal ar adeg y digwyddiad.

Mae’r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un arall sydd â gwybodaeth ac yn gofyn iddyn nhw ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod 277 26/12/14.