Mae’r gwaith yn dechrau heddiw ar ailddatblygu Canolfan Hamdden Nova ym Mhrestatyn ar gost o £4.2 miliwn.
Mae disgwyl i’r prif waith gael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf eleni.
Mewn partneriaeth â Alliance Leisure Services, bydd contractwyr o ISG yn dechrau’r gwaith o adnewyddu’r ganolfan heddiw.
Mae’n cynnwys datblygu mynedfa a derbynfa newydd, cyfleusterau caffi, ystafell ffitrwydd gyda gofod stiwdio amlswyddogaethol, a chyfleusterau newid. Bydd y pwll nofio 25 medr yn cael ei gadw fel rhan o’r ailddatblygiad.
Fe wnaeth Canolfan Nova gau yn dilyn penderfyniad Hamdden Clwyd i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn wirfoddol fis Chwefror diwethaf.
Roedd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu rhoi’r gorau i ariannu Hamdden Clwyd er gwaethaf cais i beidio gwneud hynny gan y cwmni.
Yn dilyn hynny, fe wnaeth y cyngor gynnal gwerthusiad manwl o’r cyfleuster tra bod achos busnes llawn ar gyfer ei ailddatblygu yn cael ei lunio.
‘Cam mawr ymlaen’
Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Hamdden: “Mae ailddatblygu Canolfan Nova yn rhan bwysig o’n gweledigaeth i ddatblygu’r cyfleusterau hamdden ar yr arfordir.”
Ychwanegodd: “Mae dechrau’r gwaith ar safle Nova yn gam mawr ymlaen yn hanes y cyfleuster. Bydd y datblygiad newydd yn ychwanegiad gwych i Brestatyn ac mae’n dod yn dynn ar sodlau datblygiad Canolfan Fowlio Gogledd Cymru.”