Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gorff gael ei ddarganfod wrth waelod clogwyn ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
Galwyd yr heddlu yno fore dydd Sul tua 9.20.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi dechrau ymholiadau i geisio ffeindio pwy oedd y person a fu farw.