Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi dweud ei bod hi eisiau consensws trawsbleidiol i ostwng oedran pleidleisio yng Nghymru i 16 erbyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Mae Kirsty Williams wedi sgwennu llythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn gofyn am ddatganoli’r pŵer i ostwng yr oedran pleidleisio i’r Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi gofyn i arweinwyr y dair brif arall yng Nghymru i’w lofnodi hefyd.

Dywedodd Kirsty Williams AC ei bod hi’n credu y dylai Gymru gael yr un cyfle â’r Alban i benderfynu ar oedran pledleisio.

Ychwanegoedd mai “anghyfiawnder” yw’r ffaith nad yw pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn cael pledleisio

Meddai Kirsty Williams AC: “Mae’r refferendwm yr Alban yn dangos bod pobl ifanc 16 ac 17 oed yn berffaith abl i fwrw pleidlais gwybodus.

“Ynghyd â ehangu addysg wleidyddol, byddai’r symudiad hwn bron yn sicr yn creu cenhedlaeth gwybodus a fydd yn y pen draw yn bleidleiswyr am oes.”