Mae S4C wedi cyhoeddi pwy fydd Golygydd Chwaraeon newydd y sianel.

Bydd Sue Butler yn ymuno â S4C i ofalu am holl gynnwys chwaraeon y sianel ac yn dechrau yn y swydd ar Ionawr 12.

Bydd ei swyddogaethau’n cynnwys denu a negydu hawliau darlledu ar gyfer amrywiaeth o gampau ac arwain y strategaeth cynnwys chwaraeon.

Yn wreiddiol o’r Wyddgrug a bellach yn byw yn Sir Fynwy, mae Sue Butler yn gynhyrchydd rhaglenni ac wedi gweithio ar ddarllediadau o rai o brif ddigwyddiadau’r byd chwaraeon.

Mae’r rhain yn cynnwys pum Gemau Olympaidd, Gemau’r Gymanwlad, Rowndiau Terfynol Cwpan yr FA, twrnamaint tennis Wimbledon, Cwpan Ryder, y Grand National a thwrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad.

“Profiad helaeth”

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Mae’n bleser cyhoeddi y bydd Sue Butler yn ymuno â’r tîm ac yn dod â phrofiad helaeth yn y maes darlledu chwaraeon gyda hi.

“Gyda nifer cynyddol o sianeli yn cystadlu am yr hawliau i ddarlledu chwaraeon, mae’r maes yma yn un sy’n dod yn fwy cymhleth a chystadleuol fyth. Gwaith Sue fydd negydu yn y byd heriol hwn a sicrhau amserlen gyffrous o chwaraeon amrywiol i wylwyr S4C.”